Mae o leiaf 15 o bobl wedi cael eu lladd mewn ffrwydradau yn Somalia.

Digwyddodd y ffrwydradau yn y brifddinas, Mogadishu, gan daro bwyty The Village a’r gwesty Muna. Mae’r ddau le yn boblogaidd gyda gweithwyr y llywodraeth. Mae’r Village hefyd yn boblogaidd gyda newyddiadurwyr ac aelodau o’r byd gwleidyddol yn y brifddinas.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy sy’n gyfrifol am yr ymosodiadau.

Mae’r grŵp Islamaidd al-Shabab wedi cynnal nifer o ymosodiadau ar Mogadishu ers 2011. Al-Shabab sy’n rheoli rhannau mawr o’r wlad.