Jeremy Paxman
Mae trigolion Blaenafon wedi gwahodd y cyflwynydd a’r newyddiadurwr Jeremy Paxman i ymweld â’u tref ar ôl iddo ddwyn anfri arni ar y rhaglen Newsnight yr wythnos hon.
Dywedodd Paxman fod mwy o bobl wedi clywed am Ardal y Llynnoedd na Blaenafon wrth drafod cais Ardal y Llynnoedd i fod yn Safle Treftadaeth y Byd. Rhoddwyd statws Safle Treftadaeth y Byd i Flaenafon yn 2000 gan UNESCO mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad allweddol i’r Chwyldro Diwydiannol.
Maen nhw wedi cynnig ei dywys o amgylch y dref gan gynnwys Amgueddfa’r Big Pit. Mae Cyngor Torfaen hefyd wedi cynhyrchu fideo arbennig yn ei wahodd draw.
Dydi Jeremy Paxman ddim wedi ymateb i’r gwahoddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Newsnight wrth y South Wales Argus eu bod nhw’n siŵr fod Blaenafon yn lle dymunol.