Ed Miliband
Mae’r ffrae rhwng y Blaid Lafur a’r undeb Unsain yn parhau ar ôl i adroddiad mewnol wrthod honiadau fod yr undeb wedi ceisio gwyrdroi’r broses o ddewis ymgeisydd i’r Blaid Lafur ar gyfer etholiad yn Falkirk.

Mi roedd yr honiadau fod Unsain wedi cambihafio wedi arwain Ed Miliband i gynnig newidiadau mawr i berthynas ei blaid â’r undebau llafur.

Ond mewn datganiad ddoe dywedodd y Blaid Lafur fod adroddiad mewnol wedi dod i’r canlyniad nad oedd unrhyw reolau wedi cael eu torri yn y broses o ddewis ymgeisydd etholiadol yn Falkirk.

Dyw’r adroddiad mewnol ddim wedi cael ei gyhoeddi. Mae’r Blaid hefyd wedi dweud, fodd bynnag, fod “tystiolaeth allweddol” wedi ei dynnu yn ôl o’r ymchwiliad.