Ni lwyddodd arweinwyr rhai o wledydd mwyaf pwerus y byd ddod i gytundeb ynglŷn a Syria yn y gynhadledd G20 yn St Petersburg. Yn awr, mae Arlywydd Obama yn wynebu’r dasg o geisio perswadio aelodau’r Gyngres yn yr Unol Daleithiau i gefnogi gweithredu milwrol yn Syria.

Mae’r Arlywydd Obama wedi cydnabod y bydd yn dasg anodd. Bydd aelodau’r Gyngres yn dychwelyd i Washington ddydd Llun ar ôl gwyliau’r haf.

Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi rhybuddio y byddai gweithredu milwrol yn gamgymeriad gan y byddai’n gwneud y sefyllfa yn Syria hyd yn oed yn fwy ansefydlog, ac mae Rwsia a Tsieina wedi datgan y byddai unrhyw weithredu milwrol yn erbyn Syria heb ganiatâd y Cenhedloedd Unedig yn anghyfreithlon.