Kevin Rudd, y prif weinidog presennol
Y disgwyl yw y bydd arweinydd yr wrthblaid, Tony Abbott, yn arwain ei glymblaid i fuddugoliaeth yn yr etholiad yn Awstralia heddiw.
Tony Abbott yw arweinydd y Blaid Ryddfrydol sydd mewn clymblaid â’r Blaid Genedlaethol. Mae polau piniwn yn awgrymu mai’r glymblaid fydd yn fuddugol yn yr etholiad, gan guro’r Prif Weinidog presennol, Kevin Rudd, a’i blaid, y Blaid Lafur.
Mae’n ymddangos fod y wlad wedi cael llond bol ar y dadlau mewnol oddi fewn y Blaid Lafur, a welodd y Prif Weinidog ar y pryd, Julia Gillard, sydd o dras Gymreig, yn cael ei gorfodi i adael ei swydd ym mis Mehefin eleni.
Mae’r dreth garbon a gafodd ei gyflwyno gan y Blaid Lafur i daro’r rhai sy’n llygru’r amgylchedd hefyd wedi profi i fod yn hynod o amhoblogaidd.
Yn ôl deddf gwlad, mae’n rhaid i holl drigolion Awstralia bleidleisio yn yr etholiad. Y disgwyl yw y bydd dros 14 miliwn o bobl yn bwrw eu pleidlais heddiw.