Richard Harrington, Y Gwyll
Dywed Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, y bydd y rhaglenni mae’r sianel yn bwriadu eu darlledu’r hydref hwn yn “codi’r bar o ran safon cynhyrchu teledu yng Nghymru.” Mae’n ffyddiog, meddai, y bydd y rhaglenni yn apelio nid yn unig at y rhai sy’n gwylio S4C yn gyson, ond hefyd at gynulleidfaoedd newydd.
“Ry’n ni’n falch iawn o’r hyn sydd gyda ni i’w gynnig,” ychwanegodd, wrth i S4C lansio ei hamserlen ar gyfer yr hydref.
“Rydym yn gwrando ar bobol Cymru ac ym meysydd drama, adloniant, rhaglenni ffeithiol a digwyddiadau, mae’r hyn rydym wedi’i gynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod yn arbennig o uchel ei safon.”
Drama, dogfen, chwaraeon
Yn dechrau’n fuan ar y sianel fydd Y Plas – cyfres hanes byw fydd yn dangos pobl gyffredin heddiw yn byw fel trigolion plasty yn y flwyddyn 1910. Rhai’n byw’n fras, ac eraill yn gweini arnyn nhw ddydd a nos – mae bywyd Y Plas yn siŵr o fod yn agoriad llygaid iddyn nhw ac i’r gynulleidfa.
Drama wreiddiol fawr y cyfnod fydd cyfres sydd wedi cael cryn dipyn o sylw’n rhyngwladol eisoes, sef Y Gwyll/Hinterland. Cyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Fiction Factory a’r dosbarthwyr rhyngwladol, ALL3MEDIA International yw hon – cyfres dditectif sydd wedi’i gosod yn ardal Aberystwyth, fydd yn dechrau ar S4C ddiwedd mis Hydref. Dyma fydd y cyfle cyntaf ar unrhyw sianel, mewn unrhyw wlad, i weld Y Gwyll/Hinterland cyn iddi ymddangos ar rwydweithiau eraill ar draws Ewrop.
Mae yna hefyd raglenni dogfennol unigol gyda rhai yn coffau digwyddiadau mawr hanesyddol. Tanchwa Senghennydd yn coffau can mlynedd ers y gyflafan erchyll yma a laddodd cannoedd, ac i gyd-fynd â hon mae rhaglen arbennig i blant a ffilmiau addysgol ar-lein. Hefyd, fe fydd Cofio Llangyndeyrn yn nodi llwyddiant cymuned wrth atal cynllun i foddi dyffryn hanner can mlynedd yn ôl. Ac wrth i gyfres O’r Galon ddychwelyd, fe fydd rhaglen gyntaf y gyfres yn awr bwerus o ddarlledu gyda’r tad a’r mab John a Geraint Hardy, y ddau yn wynebau cyfarwydd ar S4C, yn trafod effaith alcoholiaeth ar y teulu.
Bydd Iolo Williams yn dychwelyd at S4C gyda chyfres newydd, Natur Gudd Cymru. Fe fydd Iolo yn teithio drwy’r wlad yn chwilio am rai o’r rhywogaethau prin ac annisgwyl sy’n byw yng Nghymru heddiw.
“Cysyniad cwbwl newydd”
Bydd y gyfres Tyfu Pobl yn dilyn criw mewn un gymuned yng Ngwynedd fydd yn defnyddio eu gerddi a’r adnoddau naturiol o’u cwmpas i wneud newidiadau sylfaenol i’w bywydau. Dywed S4C fod Tyfu Pobol “yn gysyniad cwbl newydd ddylai apelio at gynulleidfa fodern a blaengar.”
Ar y meysydd chwarae, wrth i’r tymor RaboDirect Pro12 ddechrau ar S4C y penwythnos yma, bydd gemau rhyngwladol yr hydref hefyd yn cael eu darlledu ar y sianel. Mi fydd Sgorio yn dangos y gorau o Uwchgynghrair Cymru, a Ralio+ yn dychwelyd hefyd.
Ac i wylwyr iau, fe fydd wythnos o raglenni arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn benllanw’r wythnos honno, gwelir ffilm ddogfen arbennig DymaFi.TV sy’n gadael i bobl ifanc gyflwyno eu bywydau bob dydd yn eu geiriau eu hunain, a thrwy’u dulliau eu hunain.
A bydd math gwahanol o ddrama ar y sianel hefyd wrth i Wynne Evans gyflwyno cyfres newydd sbon arall, sef Am Ddrama. Byd cyfle i ddilyn y tenor Wynne Evans wrth iddo deithio ar draws Cymru i gwrdd â’r cymeriadau unigryw ac allblyg sy’n perthyn i gymdeithasau “am dram” ac operatig. Fe fydd yn ymweld ag un gymdeithas ymhob rhaglen ac yn rhoi help llaw iddyn nhw i baratoi ar gyfer perfformiad.