Mae mam ifanc yn ei hugeiniau a’i babi deunaw mis mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan gar yn Llundain neithiwr.
Mi roedden nhw’n cerdded ar draws croesfan sebra yn Finchley, gorllewin Llundain, ar y pryd.
Dyn yn ei 70au oedd y gyrrwr ac mi wnaeth e stopio ar ôl y digwyddiad. Yn ôl yr heddlu, nid yw wedi cael ei arestio.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.