Nid oedd y Frenhines yn y palas ar y pryd
Mae dyn wedi cael ei arestio y tu mewn i Balas Buckingham.
Roedd wedi dringo ffens i gael i mewn i gartref y Frenhines, ac fe’i harestiwyd ar amheuaeth o fyrgleriaeth, tresbasu a difrod troseddol.
Mi wnaeth yr heddlu ei ddarganfod yn un o’r mannau sy’n agored i’r cyhoedd yn ystod y dydd ychydig cyn 10.30 nos Lun diwethaf.
Fe gafod dyn arall ei arestio y tu allan i’r palas.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Llundain fod y ddau ddyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth a bod eu hymchwiliadau yn parhau. Mae adolygiad o drefniadau diogelwch y palas yn digwydd ar hyn o bryd, ychwanegodd, ac nid oedd unrhyw aelod o’r teulu Brenhinol yn bresennol ym Mhalas Buckingham nos Lun pan gafodd y dyn ei ddarganfod.
Mae’r Frenhines yng Nghastell Balmoral ar hyn o bryd a’r disgwyl yw y bydd yn ymweld â Gemau’r Ucheldir heddiw.