Wiwer goch
Mae Pwyllgor wedi galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i drafod gyda’r cyhoedd ynglŷn â’r camau nesaf am  gynllun dadleuol  i dorri coed yng Nghoedwig Niwbwrch, Ynys Môn.

Fe gytunwyd ar gynllun newydd ar gyfer Coedwig Niwbwrch ar ôl saith mlynedd o ymgynghori gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli’r Goedwig ar ran Llywodraeth Cymru.

Neithiwr fe fu Pwyllgor Cyswllt Coedwig Niwbwrch yn cyflwyno tystiolaeth i gynghorion Ynys Môn a Nick Thomas, Rheolwr Mannau Gwarchodol am y pryder sydd gan y trigolion lleol ynglyn a dinistrio’r coedwigoedd sy’n gartref i’r wiwer goch.

Dywedodd un o gydgynghorion Bro Aberffraw, Anne Griffith:

“Roedd neuadd y pentref yn llawn a’r teimlad cyffredinol oedd bod diffyg ymgynghoriad trwyadl wedi bod dros y 10 mlynedd ddiwethaf, sydd wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth gan y bobl leol.

“Mae’r holl sefydliadau oedd yn bresennol neithiwr angen dod at ei gilydd hefo un llais i roi llinell yn y tywod a symud ymlaen, hefo gwell dealltwriaeth o beth sy’n mynd i gael ei wneud.”

Methu cyflawni dyletswyddau

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Niwbwrch, Emlyn Parry Williams, nad oes digon wedi ei wneud i hysbysu’r bobol leol o beth sy’n digwydd i brif gartref y wiwer goch drwy Brydain:

“Mi wnaethon ni brofi i Cyfoeth Naturiol Cymru ei bod nhw wedi methu cyflawni ei dyletswyddau.

“Maen nhw wedi gadael darnau holl bwysig allan o’u cynlluniau i’r cyhoedd, manylion ynglyn â’r gwiwerod coch er enghraifft.”

Roedd tua 96% o aelodau’r cyfarfod yn cefnogi safbwynt y Pwyllgor Cyswllt, yn ôl Emyr Parry Williams.

Bydd cyfarfod arall gyda Phwyllgor Cyswllt Coedwig Niwbwrch ar 11 Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym am gyhoeddi mwy o wybodaeth am arolwg yr ydym yn ei gynnal yn fuan cyn y cyfarfod nesaf gyda Phwyllgor Cyswllt Niwbwch ar Fedi 11.

“Mae’n werth nodi fod yr ardal sy’n cael ei hadeiladu arni yn ganran fechan o’r safle 700 hectar a bod y mwyafrif o’r coed yn yr ardal yma un ai ddim yn iach neu wedi marw.”