Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Dr Peter Higson yw cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn dilyn ymddiswyddiad yr Athro Merfyn Jones o’r swydd ar ôl adroddiad beirniadol am y bwrdd iechyd.
Mae Peter Higson yn hanu o Lanrwst ac yn gyn brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb am archwilio gwasanaethau iechyd Cymru.
Wrth gyhoeddi penodiad Peter Higson, dywedodd Mark Drakeford AC, “Rwy’n falch bod Dr Peter Higson wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae ganddo brofiad eang o weithio yn y GIG, ac mae’n rhoi cryn bwyslais ar faterion ansawdd a diogelwch. Bydd hyn yn hynod fanteisiol i’r bwrdd iechyd.”
Mae Peter Higson yn aelod o dîm Comisiynydd Pobl Hyn Cymru a derbyniodd OBE ar restr anrhydeddau’r flwyddyn newydd.
Yn dilyn ei benodiad i’r swydd, dywedodd Peter Higson, “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel un o’r gogledd, rwy’n edrych ymlaen at helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd o’r radd flaenaf i’r rhanbarth.”
Dywedodd Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Geoff Lang, “Ein pleser yw croesawu Dr Peter Higson fel Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n ymuno â ni ar adeg bwysig i’r Bwrdd Iechyd: mae adolygiadau diweddar wedi nodi problemau arwyddocaol ac rydym yn adnabod yr angen i wneud gwelliannau cyflym.”