Michael Le Vell
Mae’r actor Michael Le Vell, sy’n wynebu cyhuddiad o dreisio merch, wedi dweud wrth y rheithgor  nad oedd wedi meddwi digon fel ei fod wedi treisio merch ifanc.

Wrth ymddangos yn Llys y Goron Manceinion, cyfaddefodd Michael Le Vell, sy’n 48 oed ac yn adnabyddus  am chwarae rhan Kevin Webster yn Coronation Street, fod ganddo broblem ag alcohol a’i fod cael sawl perthynas gyda merched eraill er ei fod yn briod.  Ond mae’n gwadu ei fod wedi cam-drin plant.

Wrth holi’r actor, dywedodd yr erlynydd Eleanor Laws QC fod Michael Le Vell “yn dweud celwydd wrth fynd yn ei flaen.”

Roedd Michael Le Vell wedi dweud wrth y rheithgor yn gynharach fod ganddo “gyfrinachau bach du” yn ei fywyd personol ond mae’n dweud nad oedd yn cyfeirio at gam-drin plentyn.

Mae Michael Le Vell yn gwadu pum cyhuddiad o dreisio, tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus, dau gyhuddiad o ymyrryd yn rhywiol â phlentyn a dau o orfodi plentyn i ymgymryd â gweithred rywiol.

Wrth annerch y rheithgor, dywedodd y barnwr Michael Henshell. “Mae’n anodd anwybyddu’r cyhoeddusrwydd sydd ynghlwm â’r achos yma, ond rydych yn gwybod mai chi sy’n gyfrifol am ddod i benderfyniad. Peidiwch â gadael i ddim yr ydych yn ei ddarllen a’i wylio eich dylanwadu.”

Mae’r achos wedi ei ohirio tan ddydd Llun pan fydd areithiau cloi yn cael eu cyflwyno a bydd y rheithgor yn dechrau ystyried eu dyfarniad.