(Chwith i'r dde) Antony Lowry-Huws, Sheila Whalley, Nicholas Jones a Frank Darlington
Mae pump o bobl, gan gynnwys cyn blismon, wedi cael eu dedfrydu am dwyll morgeisi gwerth £50 miliwn.
Credir mai’r cyn-blismon Antony Lowry-Huws, 65, o Fae Cinmel oedd y tu ôl i’r twyll a chafodd ei garcharu am saith mlynedd am wneud ceisiadau morgeisi ffug, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd ei wraig Susan Margaret Lowry-Huws, 60, hefyd o Fae Cinmel ei charcharu am 12 mis wedi ei ohirio am ddwy flynedd a 300 awr o wasanaeth cymunedol. Roedd ei bartner busnes Sheila Rose Whalley, o Lanfair Talhaiarn, wedi cael dedfryd o chwe blynedd yn y carchar.
Cafodd y cyfreithiwr Nicholas John Jones, 54, o Leeswood, yn Sir y Fflint; a’r syrfewr Frank Edward Darlington, 62, o Barnoldswick yn Sir Gaerhirfryn eu carcharu am bedair blynedd yr un.
‘Yr achos mwyaf erioed’
Roedd pob un o’r pum diffynnydd wedi cael eu dedfrydu am gynllwynio i dwyllo mewn perthynas â 189 o geisiadau ffug am forgeisi a wnaed rhwng mis Mai 2003 a Mehefin 2008.
Dywedodd y Prif Arolygydd Iestyn Davies o Heddlu Gogledd Cymru mai Ymgyrch Valgus, yn ôl pob tebyg, yw’r achos mwyaf erioed o dwyll morgeisi yng Nghymru a Lloegr.
“Rydym yn croesawu’r dedfrydau heddiw mewn perthynas â’r ymchwiliad yma gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi cymryd pum mlynedd o ymchwil manwl i gyrraedd y canlyniad llwyddiannus heddiw.”