Mae ymgyrchydd dros hawliau merched a fu’n destun sylwadau bygythiol ar trydar, wedi dileu ei chyfrif, ddyddiau yn unig ar ôl codi cwestiynau ynglŷn ag ymchwiliad yr heddlu i’r achos.

Derbyniodd Caroline Criado-Perez, o ogledd Llundain, negeseuon yn bygwth ei threisio a’i lladd pan ddechreuodd ymgyrch i geisio cael mwy o ferched i ymddangos ar bapurau arian Banc Lloegr.

Mae’n ymddangos bod Caroline Criado-Perez wedi derbyn rhagor o negeseuon bygythiol ddydd Iau ac mae’n honni bod yr heddlu wedi colli tystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r achos gan feirniadu swyddogion am fod yn “ddideimlad”.

Dywedodd Caroline Criado-Perez, “Roedd yr heddlu eisiau i mi adrodd hanes yr holl fygythiadau a gefais ar trydar oherwydd eu blerwch nhw. Bob tro yr wyf yn gorfod mynd trwy’r achos, rwy’n gorfod ail-fyw’r profiadau i gyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain eu bod yn ceisio cysylltu â Caroline Criado-Perez i drafod yr hyn sydd wedi digwydd ac maen nhw’n gwadu eu bod wedi colli tystiolaeth yn ymwneud â’r achos. Meddai: “Nid yw’r heddlu wedi colli unrhyw dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r achos yma. Rydym yn parhau i geisio cysylltu â Caroline Criado-Perez er mwyn trafod y mater ac egluro ein hymdriniaeth o’r achos.”

Mae Caroline Criado-Perez ymysg nifer o ferched amlwg sydd wedi derbyn bygythiadau yn y misoedd diwethaf. Roedd yr Aelod Seneddol Stella Creasy a’r newyddiadurwraig Catherine Mayer wedi bod yn destun bygythiadau ar trydar hefyd.