Vladimir Putin
Mae o leiaf ugain o bobl wedi ymgynnull yn St Petersburg er mwyn protestio yn erbyn deddf newydd gan Lywodraeth Rwsia sy’n gwahardd ‘propaganda sy’n hybu pobl hoyw’.
Roedd nifer helaeth o swyddogion heddlu gwrth-derfysg yn cadw llygad manwl ar y gwrthdystwyr gan eu cadw i ffwrdd o garfan a oedd wedi ymgynnull i wrthwynebu hawliau cydradd i bobl hoyw.
Dywedodd un o’r gwrthdystwyr, Kirill Kalugin, mai’r bwriad y tu ôl i bresenoldeb cryf yr heddlu oedd “i roi sioe” i arweinwyr y G20, er does neb wedi cael eu harestio.
Roedd llu o faneri a phosteri yn cael eu harddangos gan y gwrthdystwyr, yn galw ar Rwsia i beidio â gwahaniaethu ar sail rhyw, gyda rhai yn gweiddi ‘Celwyddau Putin’ wrth gyfeirio at Arlywydd Rwsia yn gwadu bod y ddeddf newydd yn tresmasu hawliau pobl hoyw.
Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, gyfarfod ag arweinwyr cymdeithas sifil Rwsia ynghyd ag ymgyrchwyr hawliau cyfartal i hoywon yn ddiweddarach heddiw.