Mae pennaeth adnoddau dynol y BBC wedi cyfaddef gwneud camgymeriadau wrth iddi roi tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau Seneddol sy’n ymchwilio i daliadau a wnaed i rai o uwch swyddogion y gorfforaeth.

Roedd Lucy Adams, a gyhoeddodd fis diwethaf ei bod yn gadael y BBC, wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) nad oedd wedi gweld nodyn yn amlinellu cynlluniau ar gyfer taliadau i’r dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol Mark Byford a’r pennaeth marchnata Sharon Baylay – ond mae hi bellach wedi cyfaddef ei bod wedi helpu i ysgrifennu’r nodyn.

Dywedodd mewn tystiolaeth ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw nad oedd hi’n glir pa nodyn roedd cadeirydd y gwrandawiad yn cyfeirio ati wrth iddi roi tystiolaeth ar 10 Gorffennaf, ac nid oedd yn gallu cofio a oedd wedi gweld y nodyn gan Mark Thompson, cyn gyfarwyddwr cyffredinol y BBC.

Ond dywedodd ei bod hi bellach yn glir pa ddogfen roedd yn cyfeirio ati a’i bod yn cadarnhau ei bod wedi helpu i ysgrifennu’r nodyn ond nad oedd wedi gweld y fersiwn terfynol a anfonwyd at yr Ymddiriedolaeth tan yn ddiweddar.