Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn arall ar amheuaeth o geisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd nos Fawrth.
Cafodd y dyn, 22 oed, o Gasnewydd ei gadw yn y ddalfa lle mae dyn 24 oed, hefyd o Gasnewydd, yn cael ei holi mewn cysylltiad â’r un digwyddiad. Cafodd yntau ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae dau ddyn arall o Gaerdydd, sy’n 22 a 24 oed, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau.
Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd ar Ffordd Cas-gwent, Casnewydd toc wedi 11.30 nos Fawrth, Medi 3. Mae’n ymddangos bod gwn peled wedi cael ei danio o un car at ddynion oedd yn teithio mewn car arall, gan achosi i un o’r ceir fod mewn gwrthdrawiad.
Cafodd y ddau ddyn a’r ddynes oedd yn teithio mewn un o’r ceir anafiadau, a chawson neu eu cludo i’r ysbyty.
Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn ceisio dod o hyd i’r gwn a gafodd ei ddefnyddio ynghyd â char 4×4 a welwyd yn gyrru ar hyd Ffordd Cas-gwent i gyfeiriad Ffordd Beechwood.
Maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod 586 03/09/13.