Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae dwy ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael eu cau i gleifion newydd oherwydd achos o’r salwch stumog noro virus.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai wardiau Morris a Bersham sydd wedi cael eu heffeithio gan y noro virus ac nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw gleifion newydd ar hyn o bryd er mwyn atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

Mae’n ymddangos bod yr achos cyntaf wedi cael ei gofnodi ar Awst 18 a bellach mae naw o bobl yn dioddef o’r haint.

Dywedodd y llefarydd: “Mae’r math yma o haint bob tro yn bosibilrwydd mewn ysbyty oherwydd natur y sefydliad gyda nifer o bobl wedi ymgynnull mewn ardal gymharol fach.

“Ond gan amlaf yn y gaeaf mae’r haint ar ei waethaf. Y nod nawr yw ceisio atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.”