Cafodd un person eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Y Rhyl bore ma.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r digwyddiad yn Heol Marsh toc wedi 11 bore ma ar ôl i gar Nissan Note lliw arian fod mewn gwrthdrawiad a Citroen Picasso llwyd.
Mae disgwyl oedi yn yr ardal am beth amser ac mae’r heddlu’n cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y gwasanaethau brys bod y person gafodd eu hanafu yn cael eu hasesu gan staff meddygol.
Maen nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.