Y cloddio ar safle Cyfarthfa ym Merthyr
Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn ar safle hen waith haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful, lle mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent wedi bod yn cloddio ers rhai misoedd.
Mae’r safle wedi cael ei neilltuo ar gyfer ehangu canolfan siopa, gyda’r bwriad o ddatblygu adeilad siop B&Q i’r gogledd a neilltuo lle ar gyfer datblygu archfarchnad Marks and Spencer.
Ond yn fuan ar ôl i’r gwaith ddechrau, daeth archeolegwyr o hyd i ffyrnau, efeiliau a ffyrnau golosg ar y safle ynghyd â nifer o adeiladau eraill yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd y diwrnod agored yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r safle a dysgu mwy am ei hanes cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
Mae’r darganfyddiadau archeolegol yn golygu bod amodau cynllunio i’r datblygiad ac fe fydd newidiadau yn y ffordd mae’r datblygiad yn cael ei adeiladu er mwyn eu diogelu.
Dywedodd Richard Lewis o Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent wrth golwg360, “Mae’n ymddangos bod y math yma o ddarganfyddiadau yn gyffredin iawn yng Nghymru, gyda nifer fawr iawn ohonyn nhw yn Ne Cymru, megis Glynebwy. Ond yr hyn sy’n ddiddorol yw nad oes cymaint o’r mathau yma o adfeilion yn Lloegr.”
Mae’r diwrnod agored yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Medi 7 rhwng 10yb a 3.30yh.