Mae prisiau tai wedi cynyddu 5.4% ers yr haf y llynedd wrth i’r farchnad dai ddechrau gwella, yn ôl ffigurau gan yr Halifax heddiw.

Dywed y benthyciwr bod prisiau wedi cynyddu 0.4% ym mis Awst, y seithfed cynnydd misol yn olynol.

Mae prisiau tai ar gyfartaledd bellach yn £170,231.

Dywedodd economegydd yr Halifax Martin Ellis mai economi gryfach a chynlluniau’r Llywodraeth i hybu’r farchnad dai sydd i gyfrif am y cynnydd.

Mae disgwyl i brisiau tai gynyddu’n raddol dros weddill y flwyddyn, meddai.