Mae arbenigwr ar anafiadau i’r ymennydd yn galw am fwy o unedau arbenigol yng Nghymru i ddelio â chynnydd yn nifer y bobol sy’n dioddef o drawma i’r pen.
Nid oes gan Gymru’r gwasanaethau i ddelio hefo’r cynnydd yn ôl yr Athro Rodger Wood, o Brifysgol Abertawe a byddai unedau arbennig ar gyfer cleifion ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty “yn gallu arbed miliynau bob blwyddyn mewn costau gofal”.
Ar hyn o bryd, mae gan yr Ymddiriedolaeth Gwella Anafiadau Ymennydd – lle’r oedd yr Athro Rodger Wood yn gyfarwyddwr clinigol tan 2001 – 13 uned ym Mhrydain. Mae gwaith wedi dechrau ar uned yn Llanelli ond “mae angen o leiaf 4 arall yng Nghymru,” meddai Rodger Wood.
Niwed
Ym Mhrydain, mae oddeutu 500 o bobl yn dioddef o niwed niwrolegol difrifol bob blwyddyn – mae’r rhan helaeth yn ddynion ifanc. Damweiniau car neu ymosodiadau sy’n achosi’r mwyafrif o’r anafiadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod “yn gweithio i wella gwasanaethau”.
“Rydym yn cydnabod bod nifer o unigolion sy’n dioddef o anafiadau trawmatig i’r ymennydd angen gofal effeithiol i ddelio hefo’r effeithiau corfforol a meddyliol.
“Mae gwaith yn cael ei wneud i wella safon y gofal drwy ddatblygiad o gynllun Cyflwr Niwrolegol a drwy weithredu ar argymhellion Arolwg Niwrolegol Oedolion Cymru gan yr awdurdodau lleol.”