Bydd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ynghyd â chefnogwyr y Blaid Lafur yn ymgynnull yng nghanol Caerdydd yfory i brotestio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i werthu’r Post Brenhinol.

Bwriad ymgyrch ‘Achub ein Post Brenhinol’ yw annog y cyhoedd i yrru cerdyn post at eu Haelod Seneddol yn galw ar y Llywodraeth i beidio â phreifateiddio’r gwasanaeth post.

Ymhlith y gwleidyddion a fydd yn annerch y cyfarfod ddydd Sadwrn fydd Rachel Reeves AS ac ymgeisydd y Blaid Lafur dros etholaeth Canol Caerdydd, Jo Stevens.

‘Ardaloedd gwledig yn dioddef ‘

Dywedodd Ysgrifennydd Rhanbarthol Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, Gary Watkins, wrth golwg360: “Rydym yn credu’n gryf y bydd gwasanaeth y Post Brenhinol mewn ardaloedd gwledig yn dioddef oherwydd cynlluniau’r llywodraeth.

“Rydym wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd i’n hymgyrch yn enwedig gan bobl sydd â busnesau mewn ardaloedd gwledig, sy’n dibynnu’n llwyr ar wasanaeth post i redeg eu busnes.”

Dywedodd Gary Watkins eu bod yn disgwyl nifer fawr o bobl i ymgynnull yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer yr ymgyrch.

Yn gynharach yr wythnos yma cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb i’r Prif Weinidog, David Cameron, yn gwrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth i breifateiddio’r gwasanaeth, gan ddatgan y byddai’r fath newid yn peryglu swyddi, arwain at dorri gwasanaethau a chodi prisiau.

Bydd y digwyddiad ddydd Sadwrn yn cael ei gynnal ger cerflun Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines am 10.30yb.