Mae dathliadau Gŵyl Golwg wedi dechrau i nodi 25 mlynedd ers cyhoeddi’r cylchgrawn.
Cafodd rhifyn cyntaf Golwg ei gyhoeddi yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Medi 1988 ac mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn y dref y penwythnos yma, union 25 mlynedd ers y cyhoeddiad cyntaf.
“O’r dechrau, nod Golwg oedd bod yn amrywiol, yn fywiog a newydd ac mae cynnal gŵyl newydd i ddathlu ein pen-blwydd yn dangos fod yr ysbryd hwnnw’n parhau,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg ac un o sylfaenwyr y cylchgrawn, Dylan Iorwerth.
“Mae’n anodd credu bod hi’n 25 mlynedd ers i ni ddechrau cyhoeddi’r cylchgrawn ond mae’n stori lwyddiant a’r un cylchgrawn wedi tyfu’n gwmni sy’n cyhoeddi tri o gylchgronau, yn cynnal gwefan newyddion di-dor yn ogystal â chynnig gwasanaethau sgrifennu, dylunio ac argraffu.”
Cyfraniad mawr
“Dw i’n meddwl fod ein cynllun yn un uchelgeisiol a chyffrous” meddai Owain Schiavone, sy’n trefnu’r ŵyl.
“Mae Golwg wedi gwneud cyfraniad mawr i bob math o elfennau o fywyd Cymraeg dros y chwarter canrif ddiwethaf ac mae’n bwysig nodi hynny. Pa ffordd well na thrwy gynnal gŵyl sy’n rhoi llwyfan i’r bywyd Cymraeg, a hynny yng nghartref y cwmni yn Llanbed.”
Gwyl i ddathlu
Ar ôl noson lwyddiannus o gomedi ddoe, heno bydd Bob Delyn a’r Ebillion yn arwain gig ar gampws y Brif Ysgol Llanbedr Pont Steffan, i gychwyn am 7 o’r gloch.
Gan ddathlu pen-blwydd go arbennig ei hunain, bydd darn o gacen pen-blwydd i’r pum deg person cyntaf i gyrraedd y gig, i ddathlu chwarter canrif o lwyddiant y band. Bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Elin Fflur, Bromas a Mellt hefyd yn chwarae heno.
Ddydd Sadwrn bydd yr ŵyl yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth, ffilm, trafod, sgyrsiau llenyddol, gweithdai celf a gweithgareddau i’r plant.
Mae modd dilyn y datblygiadau trwy ddilyn cyfrif twitter yr ŵyl @GwylGolwg <https://twitter.com/GwylGolwg> ac mae digwyddiad Facebook <https://www.facebook.com/events/532386783489410/> wedi’i greu.