Dave Lee Travis
Fe fydd y DJ Dave Lee Travis yn mynd gerbron yr Old Bailey heddiw i wynebu 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Mae Travis, 68 oed, wedi awgrymu y bydd yn pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau. Honnir eu bod wedi digwydd rhwng 1977 a 2007 ar ferched rhwng 15 a 29 oed.
Mae’r DJ wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn ers iddo gael ei arestio’r tro cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd ar amheuaeth o droseddau rhyw.