Mae gwraig o’r Almaen a gollodd ei braich ar ôl ymosodiad gan siarc oddi ar arfordir Hawaii, wedi marw wythnos ar ôl y digwyddiad.
Roedd Jana Lutteropp wedi bod ar beiriant cynnal bywyd yng Nghanolfan Feddygol Maui yn dilyn yr ymosodiad ger traeth Palauea.
Does dim cadarnhad eto ynglŷn â pa fath o siarc wnaeth ymosod arni.
Yn ôl adroddiadau gan yr awdurdodau yn Hawaii, maen nhw’n bwriadu treulio’r ddwy flynedd nesaf yn astudio symudiadau siarcod teigr o amgylch Maui yn dilyn cynnydd yn y nifer o ymosodiadau ers ddechrau 2012.
Fe gafodd saith o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiadau gan siarcod yn 2012.