Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ffyrdd a rheilffyrdd gogledd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Hynny, neu fydd yr ardal ddim yn gallu cystadlu gydag ardaloedd eraill am waith a swyddi yn y dyfodol.
Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Carwyn Jones ynghylch cyfres o faterion sy’n effeithio ar ogledd Cymru, gan gynnwys uwchraddio’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos “arweinyddiaeth, ac eglurder o ran ei diben” wrth roi’r cynllun hwn ar waith ar ôl clywed bod y cynllun wedi wynebu oedi sylweddol.
Byddai’r cynllun hwn, ar gost o tua £36m, yn dyblu’r traciau rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer, gan gynnig rhagor o gapasiti a chyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd sylweddol.
Cyfarfod yn y Rhos
Yn ystod cyfarfod yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, fis diwethaf, clywodd y Pwyllgor nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau gorfodi dros Network Rail (y corff sy’n gyfrifol am gynnal a gwella rheilffyrdd y Deyrnas Unedig) i fynd â’r cynllun yn ei flaen.
Wrth gefnogi ymdrechion i sicrhau bod pwerau pellach dros seilwaith y rheilffyrdd yn cael eu datganoli, galwodd y Pwyllgor am gynnydd yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â Network Rail ac amserlen glir o ran pryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: “Mae’r cynllun rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney yn addo manteision sylweddol i bobl gogledd Cymru, ac mae’r oedi yn destun siom.
“Hoffai’r Pwyllgor weld Gweinidogion yn dangos arweinyddiaeth a bod â diben clir wrth ddwyn y cynllun hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl.”
Deg o bethau
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 10 argymhelliad mewn llythyr i’r Prif Weinidog, yn cynnwys y tri mater hwn:
* yr angen i amlinellu sut mae’r Prif Weinidog yn cynnig datblygu meddylfryd a dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod cymunedau lleol yn cael buddion uniongyrchol o bob math o ddatblygiad seilwaith mawr, p’un a yw wedi’i leoli yn eu hardaloedd neu’n effeithio arnyn nhw;
* yr angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, ac eglurder o ran ei diben, wrth fwrw ymlaen â chynllun Wrecsam i Gyffordd Saltney cyn gynted â phosib;
* yr angen i gyhoeddi pryd y bydd cynllun i ddileu’r dagfa bresennol yn Aston Hill ar yr A494 yn cael ei weithredu.