Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ladrad yn Heol yr Efail, Rhiwbina, Caerdydd – ac maen nhw’n chwilio’n benodol am ddau berson yn eu harddegau.

Fe ddaeth galwad gan bensiynwraig yn dweud fod ei phwrs wedi ei ddwyn tua 4yp ddydd Llun, Awst 19, toc wedi i fachgen a merch fod yn ei chartref yn yn cynnig golchi ei char er mwyn codi arian at achos da.

Y gred ydi fod y bobol ifanc, ill dau’n cario rycsac, wedi bod yn yr ardal am ran helaetha’r dydd, a’u bod nhw wedi bod yn curo nifer o ddrysau.

Tra’r oedd yr hen wraig wedi mynd i nôl bwced a dwr, fe ofynnodd y ferch am gael defnyddio’r toiled. Pan ddaeth hi’n ei hôl, fe ddiflannodd y ddau ifanc.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r pwrs a gafodd ei ddwyn mewn llwyn gerllaw. Roedd yr arian y tu mewn iddo ar goll.