Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad
Mae Cyngor Torfaen yn dweud eu bod yn “siomedig” gyda phenderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i gynnal ymchwiliad statudol i’w diffyg defnydd o’r Gymraeg.
Maen nhw wedi addo y bydd y gwasanaeth ffôn sy’n sail i’r ymchwiliad ar gael yn ddwyieithog ym mis Hydref.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y gallai’r Comisiynydd gynnal ymchwiliad ar sawl rhan arall o wasanaethau’r Cyngor.
Ac maen nhw’n ei chyhuddo hi o fynd ar ôl “y mater symlaf” yn hytrach na mynd i’r afael â’r broblem gyfan.
‘Misoedd o gwyno’
“Mae wedi cymryd misoedd o gwyno a chael cyfarfodydd er mwyn cael y Comisiynydd i ddefnyddio’i phwerau o gwbl,” meddai ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngwent, Branwen Brian.
“Mae’n ymddangos bod y Comisiynydd wedi penderfynu mynd ar ôl y mater symlaf yn hytrach na chynnal ymchwiliad llawn i mewn i fethiannau’r Cyngor.”
Roedd hi wedi cymryd ymgyrchu cyson i gael Cyngor Torfaen i greu gwefan ddwyieithog, meddai’r Gymdeithas.
Ymateb y Cyngor
Problemau technegol oedd yn gyfrifol am y methiant i ddechrau gwasanaeth ffôn awtomatig yn Gymraeg yr un pryd â’r Saesneg, meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
Roedden nhw wedi lansio’r un Saesneg gyda gwendidau, er mwyn ymateb i’r galw amdano, ond yn gweithio ar wella’r un Cymraeg erbyn mis Hydref.
“Mae sgriptiau o fwy nag 20,000 o eiriau wedi eu sgrifennu a’u recordio yn y ddwy iaith,” meddai. “Oherwydd nifer o broblemau technegol nad oedd modd eu rhagweld, fe gafodd lansiad y ddau wasanaeth eu gohirio.”
Fe addawodd y byddai’r Cyngor yn cydweithio gydag ymchwiliad y Comisiynydd.