Adeg y trychineb gwreiddol
Fe allai’r dŵr llygredig sydd wedi gollwng o atomfa yn Japan fod yn ddechrau ar drychineb arall, meddai corff sy’n cadw llygad ar y safle.
Maen nhw’n poeni y gallai rhagor o ddŵr ymbelydrol ddianc o danciau yn atomfa Fukushima – mae rheolwyr yr orsaf wedi cadarnhau bod 300 tunnell o ddŵr wedi gollwng eisoes ac y gallai gyrraedd y môr.
Maen nhw eisiau codi lefel pwysigrwydd y digwyddiad o 1 i 3 ar raddfa ryngwladol – o ddigwyddiad bach i ddigwyddiad difrifol.
Yr ofn mwya’
Eu hofn mwya’ oedd fod y broblem yn ddechrau ar rywbeth llawer mwy, meddai cadeirydd y corff sy’n cadw llygad ar y diwydiant niwclear yn Japan.
“Rhaid i ni aros yn effro,” meddai Shunichi Tanaka. “Rhaid i ni gymryd y bydd yr hyn sydd wedi digwydd unwaith yn gallu digwydd eto a bod yn barod am ragor.”
Fe rybuddiodd nad oedd dim amser i’w golli cyn gweithredu i geisio atal rhagor o broblemau.
Fe gafodd yr atomfa ei difrodi’n ddrwg gan ddaeargryn a tswnami ym mis Mawrth 2011.