Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai Alfie Sullock oedd enw’r babi chwech wythnos oed a fu far war ôl digwyddiad mewn pentre ger Caerffili.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau ei fod yn byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, er mai yn Ffos y Gerddinen (Nelson) y cafodd yr anafiadau difrifol a arweiniodd at ei farwolaeth.
Mae pobol leol wedi bod yn anfon negeseuon at fam y plentyn, Donna Sullock, ac fe ddywedodd y cynghorydd lleol, Neil McEvoy, fod yr ardal wedi’i thristáu.
Holi dyn
Mae dyn 32 oed yn cael ei holi gan yr heddlu am y digwyddiad – roedd wedi cael ei gyhuddo i ddechrau o achosi anafiadau difrifol ond mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bellach eu bod yn trafod achos o lofruddiaeth.
Does dim cyhuddiadau pellach wedi eu gwneud hyd yn hyn.