Fersiwn cynharach o'r slogan, heb ei fandaleiddio (Hogyn Lleol CCA2.5)
Mae angen gwneud yn lle dweud i achub wal enwog sydd wedi cael ei difrodi gan fandaliaid.

Dyna farn y dyn a beintiodd y slogan gwreiddiol ar wal Cofiwch Dryweryn gerllaw Llanrhystud yng Ngheredigion.

Mae gwleidyddion lleol ac eraill wedi condemnio’r rhai sydd wedi paentio wyneb melyn a’r llythrennnau JK dros y geiriau.

Ond yn ôl y llenor a’r cenedlaetholwr Meic Stephens mae’n hen bryd cael gwybod beth sy’n digwydd i’r ymdrechion i geisio achub y wal.

Dywedodd yr awdur ei fod yn “siomedig fod rhywun yn teimlo’r angen i wned hyn” i’r slogan enwoca’ yng Nghymru.

Gwarchod

Mae ymgais wedi bod ers rhai blynyddoedd i geisio achub y wal ac mae’r Llywodraeth wedi addo cyfrannu ar yr amod bod arian cytatebol yn cael ei god.

“Dw i wedi rhoi siec i’r ymddiriedolaeth flynyddoedd yn ôl ond heb glywed am ddim yn cael ei wneud ers hynny,” meddai Meic Stephens.

“Mae hi’n hen bryd i’r bobol sy’n bwriadu gwneud rhywbeth i achub y gofeb ddweud wrthyn ni beth sy’n mynd ymlaen.”

“Ble mae’r holl wladgarwyr sy’n llawenhau wrth weld y slogan? Dydyn nhw ddim yn codi bys.”

Mae’r heddlu wedi cael gwybod am y fandaleiddio diweddara’.