Darren John Deakins rai blynyddoedd yn ol (Llun trwy law'r heddlu)
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei lofruddio yn Llanandras yr wythnos yma.
Roedd Darren John Deakins yn 42 oed ac fe ddaethpwyd o hyd iddo wedi ei anafu’n ddrwg mewn caeau yn agos at ganol y dref.
Fe fu farw yn Ysbyty Henffordd nos Lun.
Archwiliad
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar ei gorff heddiw.
Ac maen nhw’n parhau i holi dyn 19 oed ynglŷn â’r llofruddiaeth – mae ganddyn nhw tan chwech y bore i’w holi heb wneud cais pellach am ragor o amser.
Mae’r heddlu hefyd wedi cyhoeddi llun o Darren Deakins ac maen nhw’n gofyn am dystion a oedd yn ardal Wents Meadow yn Llanandras yn hwyr nos Sul neu yn oriau mân bore Llun.