Mae’r hanner Cymro Bradley Manning wedi cael ei garcharu am 35 o flynyddoedd gan lys milwrol yn yr Unol Daleithiau.
Ac eisoes, mae’r elusen gyfiawnder Amnesti Rhyngwladol wedi galw ar Arlywydd yr Unol Daleithiau i ddileu’r ddedfryd.
Roedd yr erlyniad wedi gofyn am 60 mlynedd, a’r amddiffyn am 25, ond fe allai fod wedi wynebu cymaint â 90 mlynedd dan glo.
Wikileaks
Roedd wedi ei gael yn euog o 20 cyhuddiad yn ymwneud â gollwng dogfennau cyfrinachol i’r wefan Wikileaks.
Roedd y milwr 25 oed yn gweithio ym maes gwybodaeth gudd ac roedd wedi gollwng miloedd o ddogfennau.
Roedd wedi cael ei fagu’n rhannol yn Hwlffordd Sir Benfro a Chymraes yw ei fam.
Galwad Amnesti
O fewn munudau i’r ddedfryd, roedd yr elusen Amnesti wedi galw ar Barack Obama i ddileu’r ddedfryd.
“Yn hytrach nag ymladd i’w roi dan glo am flynyddoedd, fe ddylai’r Unol Daleithiau fod yn troi ei sylw at ymchwilio i’r troseddau hawliau dynol difrifol a gyflawnwyd gan ei swyddogion o dan gochl ymladd terfysgaeth,” meddai pennaeth cyfraith ryngwladol yr elusen.