Bradley Manning (Llun: PA)
Fe fydd yr hanner Cymro, Bradley Manning, yn cael ei ddedfrydu mewn llys milwrol yn yr Unol Daleithiau yn yr oriau nesa’.

Mae wedi ei gael yn euog o 20 o gyhuddiadau’n ymwneud â gollwng dogfennau cyfrinachol i’r wefan Wikileaks.

Mae’r erlyniad wedi galw am ddedfryd o 60 mlynedd o garchar ond mae Bradley Manning wedi apelio ar y barnwr i roi cyfle arall iddo fynd i goleg a chreu gyrfa iddo’i hun.

Y cysylltiad Cymreig

Roedd y milwr, a gafodd ei fagu’n rhannol yn Hwlffordd yn Sir Benfro, wedi gollwng miloedd o ffeiliau, gan gynnwys un oedd yn dangos hofrennydd Americanaidd yn lladd pobol gyffredin yn Irac.

Fe fu’n byw yng Nghymru, cartref ei fam, ar ôl i briodad ei rieni dorri.

Roedd wedi ei gael yn ddieuog o’r cyhuddiad mwya’ difrifol, o helpu’r gelyn.