George Osborne - 'difater' meddai Llafur
Roedd yna siom i’r Canghellor wrth i’r ffigurau diweddara’ ddangos bod y Llywodraeth wedi gorfod mynd i ddyled eto yn ystod mis Gorffennaf.
Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau’n dangos bod diffyg yn y coffrau cyhoeddus o £1.3 biliwn yn ystod mis Gorffennaf – er fod arbenigwyr wedi disgwyl i’r ffigurau fod yn y du.
Dyma’r tro cynta’ ers tair blynedd i wario fod yn fwy nag incwm trethi ym mis Gorffennaf ond mae Llywodraeth Prydain yn dal i fynnu fod yr economi’n gwella.
Er fod cyfanswm yr incwm o drethi wedi codi ar gyfer y mis, roedd yna leihad mewn treth cwmnïau ac roedd gwario cyhoeddus yn uwch na’r disgwyl.
Yn ôl llefarydd ar ran George Osborne, roedd y cynnydd mewn incwm trethi’n dangos bod yr economi yn troi o ‘achub i adfer’ ac roedd rhesymau arbennig am y cynnydd mewn gwario cyhoeddus.
Ond roedd Llafur yn feirniadol – roedd y ffigurau’n arwydd o ddifaterwch y Canghellor, meddai eu llefarydd, Chris Leslie.