Llun o'r ardal (o wefan Western Power Distribution)
Mae tua 400 o bobol wedi arwyddo e-ddeiseb yn erbyn gosod gwifrau trydan uwchben y ddaear o ffermydd gwynt yn Sir Gaerfyrddin.

Ond, gyda’r bwriad o gasglu 100,000 o enwau, mae arweinydd y cyngor sir wedi apelio ar weddill Cymru i gefnogi’r ymgyrch.

Yn y cyfamser, fe fydd protestwyr yn cynnal arddangosfa heddiw i roi gwybod i’r cyhoedd am yr hyn sy’n digwydd.

Y ddeiseb

Ar ôl i gynghorwyr roi cefnogaeth unfrydol i gynnig gan arweinydd Plaid Cymru, Peter Hughes Griffiths, fe aeth yr arweinydd ati i osod y ddeiseb ar wefan Llywodraeth Prydain.

Mae’n dadlau yn erbyn cais gan gwmni Western Power Distribution (WPD) i gael caniatâd i godi gwifrau i gario trydan o dair fferm wynt bosib yng Nghoedwig Brechfa.

Mae’r gwrthgwynebwyr yn pryderu am effaith y wifrau ar olygfeydd, am niwed i dwristiaeth a’r posibilrwydd o beryglon iechyd.

“Dyma rywbeth y mae holl bleidiau gwleidyddol Sir Gaerfyrddin yn ei erbyn ac rwy’n gobeithio y bydd gweddill Cymru yn ymuno â ni yn ein brwydr,” meddai’r arweinydd, y Cynghorydd Kevin Madge.

‘Gwrthod llais i brotestwyr’

Yn y cyfamser, mae arweinydd un o’r grwpiau gwrthwynebwyr yn yr ardal yn cyhuddo’r cwmni trydan o’u cadw allan o bedwar gweithdy i drafod y gwifrau.

“Does gan y cyhoedd ddim llais o gwbl yn y trafodaethau,” meddai Caroline Evans, Cydlynyd Grŵp Ymgyrchu Brechfa.

Mae’r broses i’w gweld yn cau allan y bobol sy’n poeni ac am gael eu heffeithio. Wnaeth y pedwerydd gweithdy ddim digwydd hyd yn oed, o achos diffyg diddordeb.”

Nod y gweithdai, meddai, oedd helpu i benderfynu ar lwybr y gwifrau ac roedd yn honni y byddai’r penderfyniadau wedi eu gwneud “fwy neu lai” cyn i’r cyhoedd gael y manylion.

Safbwynt WPD

Mae Western Power Distribution yn mynnu y byddan nhw’n ymgynghori gyda’r cyhoedd y flwyddyn nesa’.

Roedden nhw wedi dechrau trwy drafod gyda chyrff sy’n gorfod cael eu cynnwys yn statudol yn yr ymgynghoriad.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio bod dyletswydd cyfreithiol arnyn nhw i gysylltu datblygiadau fel y ffermydd gwynt gyda’r grid cenedlaethol.

Dyw WPD ddim yn rhan o’r ceisiadau ar gyfer y ffermydd gwynt, medden nhw.

Mae un cais wedi ei ganiatau ac mae’r ddau arall yn dal i gael eu hystyried.

Arddangosfa

Bydd Cyngor Cymunedol Llanfihangel ar Arth yn arddangos y wybodaeth sydd wedi dod gan WPD rhwng 2 a 5 o’r gloch brynhawn heddiw (Mercher, 21 o Awst) yn yr Hen Gapel, Pencader.