Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniad i dalu am focs croeso yn Stadiwm y Mileniwm gan ddweud ei fod yn arwain at ddenu busnes i Gymru.
Ac maen nhw wedi addo datgelu faint yw’r gost, unwaith y bydd y cytundeb terfynol wedi ei arwyddo.
Roedden nhw wedi cael eu beirniadu gan lefarydd y Ceidwadwyr ar Fusnes, Nick Ramsay, a oedd yn cyhuddo gweinidogion Llafur o “fwynhau gwylio rygbi ar draul y cyhoedd”.
Arwydd o agwedd “drahaus” oedd gwrthod datgelu cost y bocs, meddai Nick Ramsay.
“O dan y Blaid Lafur, Cymru yw’r rhan dlotaf o Brydain ac er mwyn lleihau’r bwlch â rhannau eraill o Brydain, does dim angen bocsus sydd wedi eu talu gan y wlad.”
Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae’r bocs lletygarwch yn cael ei ddefnyddio i groesawu cwmnïau sydd â diddordeb yng Nghymru.
O dan gytundeb blaenorol, roedd wedi helpu i ddenu busnes a gwaith i’r wlad, meddai.