William Hague
Y sefyllfa yn yr Aifft a’r Dwyrain Canol ar hyn o bryd yw digwyddiad mwyaf arwyddocaol yr 21ain ganrif, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.

Dywedodd fod y trais yn yr Aifft – yn ogystal â’r gwledydd cyfagos – yn debygol o barhau am flynyddoedd, ond fod rhaid bod yn optimistig am obeithion y mwyafrif o’r boblogaeth am ddemocratiaeth heddychlon.

Fe roddodd awgrym y gallai gwledydd Prydain ac Ewrop weithredu try gymryd camau o ran masnach a chymorth i’r wlad ond fod rhaid gweithio gyda’r llywodraeth sydd yno ar hyn o bryd.

“Rhaid i ni ymateb o ddifri i hyn heb wneud i ffwrdd ag unrhyw gymorth yn y dyfodol neu ddileu pob dylanwad ar y sefyllfa …”

Ymateb swyddogion o wledydd Ewrop

Mae cyfarfod ym Mrwsel heddiw rhwng swyddogion o wledydd Ewrop i drafod sut i fynd ati i gynnig cymorth i’r Aifft wrth i nifer y meirw gynyddu.

Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jose Manuel Barroso a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd wedi cyhoeddi datganiad yn gofyn i’r fyddin gefnogi’r bwriad o gynnal etholiad cynharach a chreu llywodraeth sifil.

Ymateb yr Aifft

Mae awdurdodau’r Aifft wedi dweud nad ydyn nhw eisiau cymorth gan weldydd Ewrop a’u body n gallu delio gyda’r sefyllfa.