Mae gobaith y gallai tywydd da’r mis a hanner diwetha’ fod yn ddigon i achub y tymor gwyliau i lawer o fusnesau yng Nghymru.
Ond mae eraill yn rhybuddio mai cymysg iawn yw’r tymor hyd yn hyn ac nad yw busnes cystal o hyd ag yr oedd cyn dechrau’r dirwasgiad.
Mae golwg360 wedi bod yn siarad â nifer o fusnesau o amgylch Cymru er mwyn darganfod pa mor dda yw busnes yn dilyn y cyfnod o dywydd poeth.
‘Dim digon eto’
Er mor dda oedd mis Gorffennaf, dyw’r tywydd braf ddim wedi body n ddigon eto i archub y flwyddyn, meddai Rheolwr Masnachol Trên Bach yr Wyddfa, Alan Kendall.
“Does dim amheuaeth fod y tywydd poeth wedi rhoi hwb sylweddol i ni, gyda phob sedd yn ein trenau wedi eu gwerthu yn ystod y cyfnod yma. Ond, ar y cyfan, ac o ystyried y tywydd annobeithiol ddechrau’r tymor, perfformiad cymysg iawn yr ydan ni wedi ei gael.”
Er fod Clwb Camping a Caravanning wedi cofnodi cynydd o 38% yn y nifer a fuodd ar wyliau mewn gwersylloedd yng Nghymru fis Gorffennaf, mae’r darlun mewn rhai ardaloedd yn dangos fod busnesau yn dal i ddioddef.
Gwell, ond nid cystal
Dywedodd Diane Devlin sy’n rhedeg Maes Carafanau Gwêl y Cwm yng Nghei Newydd, bod busnes yn well eleni o gymharu â llynedd ond nad yw gystal ag yr oedd cyn y dirwasgiad.
“Dw i’n credu mai’r prif reswm fod busnes yn well eleni yw fy mod wedi buddsoddi mwy mewn hysbysebu a hyrwyddo’r safle. Does dim amheuaeth fod mwy o ymwelwyr yn ymweld â Chymru, yn enwedig ardal Ceredigion, ond dyw busnes ddim wedi adfer yn iawn ers cwymp yr economi.
“Mae’r tywydd braf yn amlwg wedi bod o gymorth i fusnesau fath a ni ond mae’r dyfodol yn dal i fod yn ansicr.”
Gwell yn yr Ardd
Dywedodd David Hardy o Ardd Fotaneg Cymru eu bod wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymwelwyr fis Gorffennaf a bod y cwmni yn cyrraedd eu targedau. Meddai, “Roedd cynydd o 100% o ymwelwyr fis Gorffennaf o gymharu â’r un cyfnod y llynedd ond does dim amheuaeth ei bod yn anodd ar bawb a rydym yn gorfod gweithio yn galed iawn i gael bobl drwy’r drws. Ond rwy’n ffyddiog bydd gŵyl y banc yn llewyrchus iawn.”