April Jones
Mae dyn o’r Alban yn wynebu cosb ar ôl cyfadde’ gosod negeseuon tramgwyddus ar wefannau cymdeithasol adeg y chwilio am y ferch fach o Fachynlleth, April Jones.

Fe gafodd Liam Young, 25, o Ardrossan, ei ryddhau ar fechnïaeth o lys yn Kilmarnock ar ôl cyfadde’ i’r cyhuddiadau ond fe allai wynebu carchar.

Mae un dyn o Loegr eisoes wedi cael carchar am drosedd debyg ac un arall wedi cael carchar wedi’i ohirio.

Dyn arall hefyd

Mae ail ddyn, Gordon Mullen, yn gwadu cyhuddiadau tebyg ac mae’r heddlu wedi cael warant i’w arestio.

Roedd Liam Young wedi pledio’n euog i ymddygiad afreolus trwy osod y negeseuon ar y wefan Facebook ddeuddydd ar ôl dechrau’r chwilio am y ferch 5 oed a gafodd ei llofruddio.

Roedd y negeseuon yn gwawdio’r gwaith o chwliio am y ferch fach o stad dai Bryn y Gog.

Roedd hi wedi diflannu ar 1 Hydref y llynedd a’r helfa amdani oedd y fwya’ o’i bath yn hanes heddlu gwledydd Prydain.