Y ddamwain drên yn Sbaen
Mae gyrrwr y trên mewn damwain yn Sbaen wedi cael ei gyhuddo am y tro o nifer o achosion o ladd trwy esgeulustod.

Fe gafodd Francisco Jose Garzon Amo, 52 oed, ei holi gan ynad yn ninas Santiago de Compostela neithiwr, ac wedyn ei gyhuddo.

Mae wedi gorfod ildio’i basbort ac fe fydd rhaid iddo ymweld â swyddfa heddlu unwaith yr wythnos.

Un arall yn marw

Fe fu farw un arall o’r teithwyr ddoe, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau i 79. Mae 70 arall yn parhau yn yr ysbyty, a 22 o’r rheiny mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl awdurdodau rheilffordd Sbaen, fe ddylai’r trên fod wedi dechrau brecio ddwy filltir a hanner yn gynt nag y gwnaeth.

Y ddamwain ddydd Mercher yw’r waetha’ ar reilffyrdd y wlad ers blynyddoedd.