Mae ymgynghori’n dechrau heddiw ynglŷn â deddf newydd bosib i atal pobol rhag byw trwy’r flwyddyn mewn meysydd carafanau.
Fe enillodd yr Aelod Cynulliad Darren Millar yr hawl i gyflwyno bil yn y Cynulliad a fyddai’n atal problem sydd, meddai, yn creu trafferthion mawr mewn rhai rhannau o Gymru.
Mae cynghorydd yng Ngwynedd, Aled Evans, hefyd wedi codi pryderon am y peryg fod carafanau’n cael eu troi’n gartrefi parhaol.
Fe fyddai hynny, meddai, yn golygu mewnlifiad trwy’r drws cefn ac mae arweinydd Cyngor Conwy wedi sôn am y pwysau ar wasanaethau lleol.
‘Gwasanaethau, ond dim trethi’
Yn ôl Bob Squire, mae 5,000 o bobol yn byw’n barhaol mewn carafanau yn y sir, er bod hynny yn erbyn y rheolau ac nad ydyn nhw’n talu trethi cyngor.
Mae llawer ohonyn nhw’n oedrannus, meddai ar Radio Wales. “Mae arnyn nhw angen llawer rhagor o ofal, ond dydyn ni’n cael dim.”
Y dadleuon o blaid
Dyma’r dadleuon yr oedd Darren Millar wedi eu cyflwyno wrth roi’r syniad am y bil gerbron y Cynulliad:
Mae’r Bil hwn wedi’i gynllunio i roi sylw i bryderon ynghylch rheoli a rheoleiddio meysydd carafanau gwyliau, gan gynnwys:
- byw mewn carafanau yn anghyfreithlon
- y pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phobl sy’n byw mewn carafanau yn anghyfreithlon
- yr adnoddau sydd ar gael i orfodi amodau ynglŷn â thrwyddedau meysydd carafanau gwyliau
priodoldeb gweithredwyr/perchnogion meysydd carafanau gwyliau - y ffordd y mae rhai perchnogion meysydd carafanau gwyliau yn cam-drin perchnogion carafanau gwyliau ar eu safleoedd
- cost darparu gwasanaethau cyhoeddus i’r rhai sy’n defnyddio carafanau gwyliau yn brif gartrefi.