Mae angen i gwmnïau ynni mawr fod yn fwy agored ynglyn a sut maen nhw’n gwneud eu helw, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.

Mae’r Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd hefyd wedi beirniadu’r corff sy’n goruchwylio’r diwydiant ynni, Ofgem, gan ddweud nad yw’n gwneud digon i fynd i’r afael a’r broblem ac adfer hyder y cyhoedd.

Mae Ofgem yn cael ei annog i gryfhau a gorfodi cwmnïau trydan a nwy i ddangos eu bod yn dryloyw, yn ôl un AS.

Mae’r ASau wedi gwneud cyfres o argymhellion gan gynnwys gwneud biliau ynni yn haws i’w deall ac i gymharu prisiau gyda chwmnïau eraill.

Cyfathrebu

Yn ôl adroddiad y pwyllgor roedd ’na “ddiffygion difrifol” yn y modd mae cwmnïau ynni yn cyfathrebu gyda chwsmeriaid er bod gwelliannau wedi cael eu cyflwyno, meddai’r ASau.

Mae cyfathrebu gwael ynglŷn â pham mae prisiau ynni wedi cynyddu wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth ymhlith cwsmeriaid, meddai’r pwyllgor. Maen nhw hefyd yn awgrymu bod y nifer fach o bobl sy’n newid o un cwmni ynni i’r llall yn dangos nad yw’r farchnad mor gystadleuol ag y gallai fod.

Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor Syr Robert Smith, AS y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mewn cyfnod pan mae pobl yn ei chael yn anodd ymdopi gyda phrisiau ynni cynyddol, mae cwsmeriaid angen sicrhad nad yw elw’r cwmnïau ynni mawr yn ormodol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn feirniadol o’r Llywodraeth am beidio â gwneud digon i helpu miliynau o deuluoedd ar incwm isel sy’n byw mewn cartrefi sydd heb eu hinsiwleiddio’n iawn.

Ymateb Ofgem

Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem, Sarah Harrison, eu bod yn croesawu’r adroddiad ond eu bod yn gwrthod yr awgrym eu bod yn methu yn eu dyletswyddau.

Ychwanegodd bod y corff wedi cyflwyno mesurau newydd ac y gallai’r cwmniau ynni gael eu cyfeirio at y Comisiwn Cystadleuaeth os nad oedden nhw’n cydymffurfio a’r diwygiadau.

Dywedodd: “Ein neges i’r diwydiant yw bod angen iddyn nhw fabwysiadu’r diwygiadau yma, a gwneud pethau’n symlach, yn gliriach ac yn decach.”