Maes awyr Caerdydd
Fe fydd awyren fasnachol fwya’r byd yn glanio ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd heddiw.

Y nod yw dangos bod modd i’r maes awyr yn Rhws dderbyn awyrennau mawr a chynnal gwasanaeth teithiau hir.

Y disgwyl oedd y byddai’r Airbus A380 sy’n eiddo i gwmni British Airways yn glanio tua naw o’r gloch heddiw.

Mae gan British Airways ganolfan gynnal a chadw awyrennau sy’n cyflogi tuag 800 o bobol y drws nesa’ i’r maes awyr.

Addas, meddai Carwyn Jones

Pan benderfynodd Llywodraeth Cymru brynu’r maes awyr, fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn addas ar gyfer teithiau hir.

Y gobaith yw fod y llain glanio’n well ar gyfer awyrennau mawr iawn na’r prif gystadleuydd, Maes Awyr Bryste.

Roedd yna ddadlau tros benderfyniad y Llywodraeth i brynu’r maes  am fwy na £50 miliwn, er eu bod yn mynnu y bydd yn cael ei gynnal yn annibynnol, heb grant.