Y Sioe Fawr yn Llanelwedd
Mae trefnwyr y Sioe Fawr eisiau gwell system i nodi pa ymwelwyr tramor sy’n dod i Lanelwedd bob blwyddyn, er mwyn dangos gwerth y digwyddiad o ran gweithgaredd busnes.
Maen nhw’n dweud fod llawer o gytundebau’n digwydd heb yn wybod iddyn nhw, wrth i’r sioe gynyddu o ran ei phwysigrwydd rhyngwladol.
Yn ôl trefnwyr y Pafiliwn Rhyngwladol yn y sioe eleni, roedd ymwelwyr wedi dod o 40 o wledydd gwahanol, gan gynnwys grŵp casglu gwybodaeth o China.
Roedden nhw’n ceisio dysgu rhagor am ymchwil amaethyddol ac am gyfleoedd i gydweithio gyda’r diwydiant yng Nghymru.
Diddordeb yn y cobiau
O’r Iseldiroedd y daeth y rhan fwya’ o ymwelwyr tramor swyddogol, meddai llefarydd ar ran y Sioe – er mai dim ond y rhai sy’n cofrestru yn y Pafiliwn Rhyngwladol sy’n cael eu cofnodi.
Amheuaeth y trefnwyr yw fod llawer rhagor yn dod i’r Sioe ac yn taro bargeinion busnes yn ystod yr wythnos.
Mae’r prif ddiddordeb rhyngwladol yn yr adrannau merlod Cymreig a chobiau ond, eleni, roedd yna un newyddiadurwr wedi teithio’r holl ffordd o Seland Newydd i roi sylw i’r ornest gneifio rhwng y Kiwis a’r Cymry.