Mae o leiaf 75 o bobl wedi cael eu lladd a thros 400 wedi’u hanafu yn dilyn daeargryn nerthol mewn ardal fynyddig yn nwyrain China.
Cafodd nifer o gartrefi eu difrodi ac mae ceblau trydan a ffon wedi cwympo yn y daeargryn ger dinas Dingxi yn nhalaith Gansu.
Mae gan Dingxi boblogaeth o tua 2.7 miliwn.
Dywed timau achub bod eu gwaith yn cael ei arafu gan dirlithriadau a mwd ar y ffyrdd ac mae’r Groes Goch yn China yn anfon pebyll, nwyddau i’r cartref a siacedi i’r ardal gan fod disgwyl glaw trwm yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Roedd y daeargryn yn mesur 5.9 ar raddfa Richter.