Mae cwmni Nestle yn bwriadu plannu caeau o flodau gwyllt ar dir eu ffatrioedd yng Ngwledydd Prydain a’r Iwerddon er mwyn denu glöynnod byw yno.
Bydd 75 acer i gyd yn cael eu plannu gyda blodau gwyllt ac erbyn 2015, dywed y cwmni y bydd yna gae ger bob ffatri ar saith fferm sy’n cyflenwi llefrith iddyn nhw er mwyn cynhyrchu siocled.
Y bwriad ydi denu’r glöynnod sydd wedi mynd yn brin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er mwyn hybu a chadw o leiaf 10 o’r rhywiogaethau mwyaf prin.