Riverdance.

Fe wnaeth y dyrfa ddawnsio mewn un llinnell ar hyd glannau’r Liffey sy’n llifo trwy’r ddinas.

Criw o 652 o ddawnswyr yn Nashville yn yr Unol Daleithau oedd berchen y record cyn heddiw.

Roedd aelodau 163 o ysgolion dawns ymhlith y dorf yn Nulyn ac fe ddaeth rhai draw o wledydd fel Mecsico a Japan i ddawnsio dan arweiniad Jean Butler fu’n arwain y Riverdance cyntaf erioed yn 1994.

Roedd yr ymgais i gipio’r record heddiw yn rhan o ddathliadau The Gathering sef ymgyrch eleni i ddenu pawb sydd â chyslltiadau neu wreiddiau Gwyddelig i ymweld â’r Iwerddon