Mel Smith (ar y chwith)
Mae asiant y comedïwr Mel Smith wedi cadarnhau ei fod wedi marw wedi trawiad y galon yn ei gartref yn Llundain ddoe (dydd Gwener).

Roedd Mel Smith yn 60 oed ac yn enwog am raglenni fel Alas Smith and Jones a Not the Nine O’Clock News.

Wrth drydar, dywedodd y darlledwr Stephen Fry bod y newyddion “ am ei hen ffrind yn ddifrifol. Fe waneth Mel fyw bywyd llaw, ond roedd yn garedig, gwirion ac yn wych i’w adnabod.”