Julian Lewis Jones
Mae actor o Fôn wedi dal y siarc cyflymaf yn y byd oddi ar arfordir Sir Benfro.

Fe gafodd y siarc Mako ei ddal rhyw 50 milltir oddi ar arfordir Aberdaugleddau ddydd Iau gan Julian Lewis Jones.

Yn ôl pob son dyma’r siarc Mako cyntaf i gael ei ddal yng Nghymru a’r cyntaf ym Mhrydain ers 42 o flynyddoedd.

“Cymerodd tua 40 munud i ni ei ddal wrth ochr y gwch, roedd yn mynd yn wyllt,” meddai’r actor sy’n cyflwyno sioe ‘sgota ar S4C.

“Rydym yn hynod o falch ac yn wirioneddol anrhydeddus o fod wedi dal y siarc yma, y cyntaf oddi ar arfordir Cymru”

Mae siarcod Mako yn gallu nofio ar gyflymder o 30 milttir yr awr ac yn mesur rhyw ddeg troedfedd o hyd.

Y tro olaf i siarc Mako gael ei ddal ym Mhrydain oedd yn 1971 yng Nghernyw.